Revelation 13:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y wnaeth cwbl ar allei yr enifel cynta wneythyr oe vlaen, ac ef y wnaeth yr ddayar, ar rrey oyddent yn drygadwy yndi, y addoli yr enifel cynta, clwyf marolaythys yr hwn, y iachawd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac awdurdod y bwystfil cyntaf, y cwbl, a arfera efe yn ei wydd, a gwneud y mae i’r ddaear a’r rhai sy’n trigo ynddi, addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei bla marwol;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A holl awdurdod y bwystfil cyntaf a arfer ef ger ei fron; a gwna i’r ddaear a’i phreswylwyr addoli’r bwystfil cyntaf, yr un yr iachawyd ei glwyf marwol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl allu'r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli'r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn gweinyddu holl awdurdod yr anghenfil cyntaf ar ei ran. Roedd yn gwneud i bawb oedd yn byw ar y ddaear addoli yr anghenfil cyntaf, sef yr un â'r anaf marwol oedd wedi cael ei iacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ganddo holl awdurdod y bwystfil cyntaf, i'w arfer ar ei ran. Gwnaeth i'r ddaear a'i thrigolion addoli'r bwystfil cyntaf, hwnnw yr iachawyd ei glwyf marwol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn arfer holl awdurdod yr Anghenfil cyntaf ger ei fron ef; ac y mae yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli yr Anghenfil cyntaf, yr hwn yr iachâwyd ei glwyf marwol ef.