Revelation 13:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a dwyllawdd ddeiled y ddaiar gan yr arwyddion, yrrei y oddefwyd yddo ef y gwneythyr gair bron yr enifel, dan ddwedyd wrthynt hwy y sawl oeyddent yn drigadwy ar y ddayar, am yddynt wneythyr ðelw yr enifel, yr hwn y glwyfwd a chleddey, ac y vy vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ar gyfeiliorn yr arwain y rhai sy’n trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion y rhai y rhoddwyd iddo eu gwneuthur yngwydd y bwystfil, gan ddywedyd wrth y rhai sy’n trigo ar y ddaear, wneuthur delw i’r bwystfil y sydd a chanddo bla’r cleddyf a byw o hono.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thwylla breswylwyr y ddaear drwy’r arwyddion y rhoddwyd iddo eu gwneuthur gerbron y bwystfil, gan ddywedyd wrth breswylwyr y ddaear am wneuthur delw i’r bwystfil sydd ag archoll y cleddau ganddo ac a fu fyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae efe yn twyllo'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy'r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i'r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau ar ran yr anghenfil cyntaf, llwyddodd i dwyllo pawb oedd yn perthyn i'r ddaear. Rhoddodd orchymyn iddyn nhw godi delw er anrhydedd i'r anghenfil cyntaf oedd wedi ei anafu gan y cleddyf ac eto'n dal yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Twyllodd drigolion y ddaear trwy'r arwyddion y rhoddwyd iddo hawl i'w cyflawni ar ran y bwystfil, gan ddweud wrth drigolion y ddaear am wneud delw i'r bwystfil a glwyfwyd 'r cleddyf ac a ddaeth yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn twyllo y rhai sydd yn trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion a roddwyd iddo i'w gwneuthur yngwydd yr Anghenfil, gan ddywedyd wrth y rhai sydd yn trigo ar y ddaear ar wneuthur o honynt ddelw i'r Anghenfil, yr hwn sydd ganddo glwyf y cleddyf a byw fu.