Revelation 13:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ goddef y wneythpwyd yddo ef rroi anadl y ddelw’r enifel, mal y galley ddelw’r enifel ddwedyd, a’ pheri lladd cynifer vn nad addoley ddelwr enifel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhoddwyd iddo roi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil, ac y parai i gymmaint ag nad addolent ddelw’r bwystfil, gael eu lladd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddwyd iddo roi anadl yn nelw’r bwystfil, fel y siarado delw’r bwystfil a pheri bod lladd cynifer ag nad addolo ddelw’r bwystfil.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw'r bwystfil, fel y llefarai delw'r bwystfil hefyd, ac y parai gael o'r sawl nid addolent ddelw'r bwystfil, eu lladd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i'r ddelw o'r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw'n gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli'r ddelw gael eu lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddwyd iddo hawl i roi anadl i ddelw'r bwystfil, er mwyn i ddelw'r bwystfil lefaru a pheri lladd pob un nad addolai ddelw'r bwystfil.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd iddo i roddi anadl i ddelw yr Anghenfil, fel y llefarai hyd yn nod ddelw yr Anghenfil, ac y parai i gynifer ag na addolent ddelw yr Anghenfil gael eu lladd;