Revelation 13:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y wnaeth y bawb, bychein a’ a mawr, cyfoethoc ion a thlawd ion rryddion a chaethion, y ðerbyn nod yny dwylaw dehey ney yny talceni,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwneud y mae i bawb, y bychain a’r mawrion, ac y goludogion a’r tlodion, ac y rhyddion a’r caethion, i roddi iddynt nod ar eu llaw ddehau, neu ar eu talcennau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phair roddi i bob un, bychan a mawr, cyfoethog a thlawd, rhydd a chaeth, nod ar eu llaw ddeau neu ar eu talcen,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen — ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Parodd y bwystfil i bawb, yn fach a mawr, yn gyfoethog a thlawd, yn rhydd a chaeth, dderbyn nod ar eu llaw dde neu ar eu talcen,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac y mae yn gwneuthur i bawb, y bychain a'r mawrion, a'r cyfoethogion a'r tlodion, a'r rhyddion a'r caethion, gael rhoddi iddynt nôd ar ei llaw ddehau, neu ar eu talcen;