Revelation 13:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na allei neb na phryny na gwerthy, ond y gymerth yr nod, ney enw’r enifel, ney rrif y enw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac na allo neb brynu na gwerthu, oddieithr yr hwn sydd a chanddo y nod, enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel na allo neb brynu na gwerthu oni bo ganddo’r nod, enw’r bwystfil neu rif ei enw ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw'r bwystfil, neu rifedi ei enw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc, sef enw yr anghenfil neu'r rhif sy'n cyfateb i'w enw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo y nôd, sef enw yr Anghenfil, neu rifedi ei enw ef.