Revelation 13:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ll’yma ddoethinep. Y sawl ysydd synhwyrys, cyfrifed rrif yr enifel: can ys rrif duyn ydiw, ae rif ydiw chwechant, a’ chwech a’ thrigen,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yma y mae’r doethineb. Yr hwn sydd a chanddo ddeall, rhifed rifedi’r bwystfil, canys rhifedi dyn yw; a’i rifedi yw chwe chant a thrugain a chwech.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hyn y mae doethineb: cyfrifed y deallgar rif y bwystfil, canys rhif dyn ydyw, a’i rif yw 666.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi'r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a'i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae angen doethineb i ddeall hyn. Bydd y rhai sydd â dirnadaeth yn deall beth ydy ystyr rhif yr anghenfil — mae'n cynrychioli person arbennig. Y rhif ydy chwe chant chwe deg chwech.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yma y mae angen doethineb: bydded i'r sawl sydd ganddo ddeall ystyried rhif y bwystfil, oherwydd rhif rhywun dynol ydyw; a'i rif ef yw chwe chant chwe deg a chwech.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yma y mae doethineb yr hwn sydd ganddo ddeall, cyfrifed rifedi yr Anghenfil, canys rhifedi dyn yw, a'i rifedi ef yw chwe chant a thriugain a chwech.