Revelation 13:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar enifel rhwn y weleis i, oedd debic y lewpard, ae draed yn debic y draed arth, ae safn yn debic y safn llew: ar dreic y rroedd yddo ef y ’allu ae eisteddle, ac awdyrdod mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r bwystfil, yr hwn a welais, oedd debyg i lewpard, a’i draed fel yr eiddo arth, a’i safn fel safn llew; a rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd-faingc, ac awdurdod mawr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thebyg oedd y bwystfil a welais i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd ac awdurdod mawr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorseddfainc, ac awdurdod mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr anghenfil yn debyg i lewpard, ond roedd ei draed fel pawennau arth a'i geg fel ceg llew. Dyma'r ddraig yn rhoi iddo ei grym a'i gorsedd a'i hawdurdod mawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y bwystfil a welais yn debyg i lewpard, ond ei draed fel traed arth a'i enau fel genau llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a'i gorsedd ac awdurdod mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Anghenfil yr hwn a welais oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r Ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorsedd, ac awdurdod mawr.