Revelation 13:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hwy dddolasant y ddreic yr hwn rroedd gallu yr enifel, ac addolasant yr enifel, dan dwedyd, Pwy ysydd debic yr enifel, pwy ddychryn rryfely ac ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhyfeddodd yr holl ddaear ar ol y bwystfil, ac addolasant y ddraig o herwydd rhoddi o honi ei hawdurdod i’r bwystfil; ac addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? a phwy a fedr ryfela ag ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac addolasant y ddraig am roddi ohoni’r awdurdod i’r bwystfil, ac addolasant y bwystfil gan ddywedyd: Pwy sydd debyg i’r bwystfil, a phwy a all ryfela ag ef?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i'r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i'r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n addoli y ddraig am mai hi oedd wedi rhoi awdurdod i'r anghenfil, ac roedden nhw hefyd yn addoli yr anghenfil. Roedden nhw'n siantio “Pwy sydd fel yr anghenfil? Does neb yn gallu ei ymladd e!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac addoli'r ddraig am iddi roi'r awdurdod i'r bwystfil, ac addoli'r bwystfil hefyd gan ddweud, "Pwy sydd debyg i'r bwystfil, a phwy all ryfela yn ei erbyn ef?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a addolasant y Ddraig, o herwydd iddi roddi ei hawdurdod i'r Anghenfil; a hwy a addolasant yr Anghenfil, gan ddywedyd, Pwy sydd yn debyg i'r Anghenfil? A phwy a ddichon ryfela âg ef?