Revelation 13:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ geney y rroed yddo ef, y ddwedyd mawr eyriey, a dirmygon, a’ gallu yrroed yddo ef, y weithio doy vis a’ deigen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion, a chableddau; a rhoddwyd iddo awdurdod i aros ddau fis a deugain;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddwyd iddo e nau yn llefaru pethau mawreddog a chableddau, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddau fis a deugain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd yr anghenfil siarad, ac roedd yn brolio ac yn cablu. Cafodd hawl i ddefnyddio ei awdurdod am bedwar deg dau o fisoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddwyd i'r bwystfil enau i draethu ymffrost a chabledd, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddeufis a deugain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion a chableddau, a rhoddwyd iddo ryddid i weithredu am ddau fis a deugain.