Revelation 13:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef agoroedd y eney mewn dirmic yn erbyn Dyw, y ddirmygy y Enw ef, ae dabernacl, ar rey trigadwy yny nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac agorodd ei enau er cabledd yn erbyn Duw, i gablu Ei enw a’i dabernacl, sef y rhai, yn y nef y mae eu trigfa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac agorodd ei enau mewn cableddau yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef a’i babell ef, y sawl sy’n pabellu yn y nef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a'i dabernacl, a'r rhai sydd yn trigo yn y nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bob tro roedd yn agor ei geg roedd yn cablu Duw ac yn enllibio ei enw a'i gysegr a phawb sydd â'u cartref yn y nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw a'i breswylfa ef, sef y rhai sy'n preswylio yn y nef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a agorodd ei enau i gableddau yn erbyn Duw, i gablu ei Enw ef, a'i Dabernacl ef, sef y rhai sydd yn trigo yn y nef,