Revelation 13:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ holl breswylwyr y ddayar, y addolasont ef, yrrein nad yw y henwey yn escrifenedic mewn Llyfr y bowyd yr Oen, yr hwn y las er dechreyad y y bud.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ei addoli ef a wnaiff pawb y sy’n trigo ar y ddaear, yr hwn nad ysgrifenwyd ei enw yn llyfr bywyd yr Oen yr Hwn a laddwyd o seiliad y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r holl breswylwyr ar y ddaear, addolant ef, pob un nad yw ei enw’n ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd er seiliad y byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl drigolion y ddaear a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir, bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear yn addoli'r anghenfil — pawb dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu (sef llyfr yr Oen gafodd ei ladd yn aberth).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd holl drigolion y ddaear yn ei addoli ef, pob un nad yw ei enw'n ysgrifenedig er seiliad y byd yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phawb sydd yn trigo ar y ddaear a'i haddolant ef, yr hwn nad ysgrifennwyd ei enw yn Llyfr Bywyd yr Oen, yr hwn sydd wedi ei ladd o seiliad y byd.