Revelation 14:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC mi edrycheis, a’ syna, Oen yn sefyll ar vynydd Sion, a gyd ac ef pedeir mil a seith vgen mil, gan vod enw y dad ef yn escrifenedic yny talceni hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais, ac wele, Yr Oen yn sefyll ar Fynydd Tsion, ac ynghydag Ef gant a phedwar a deugain o filoedd a chanddynt Ei enw ac enw Ei Dad yn ysgrifenedig ar eu talcennau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna edrychais ac wele’r Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef gant pedwar deg a phedair o filoedd, a chanddynt ei enw ac enw ei Dad ef yn ysgrifenedig ar eu talcennau hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychais wedyn, a dyma welais: yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedwar mil o bobl gydag e, ac roedd ei enw e ac enw ei Dad ar eu talcennau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychais, ac wele'r Oen yn sefyll ar Fynydd Seion, a chydag ef gant pedwar deg a phedair o filoedd, a'i enw ef ac enw ei Dad wedi eu hysgrifennu ar eu talcennau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais, ac wele yr Oen yn sefyll ar Fynydd Sion, a chydag ef gant a phedair a deugain o filoedd, a chanddynt ei Enw ac Enw ei Dâd yn ysgrifenedig ar eu talcennau.