Revelation 14:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwnw y yf o win digoveint Dyw, yr hwn y gymysgwd, o win pur mewn phiol y ddigoveint ef, ac ef y boenyr mewn tan a brymstan yn golwc yr Angylion santaidd, ac yngolwc yr Oen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
efe hefyd a yf o win llid Duw, yr hwn a barottowyd yn ddigymmysg yn phiol Ei ddigofaint; a phoenir ef â thân a brwmstan yngwydd yr angylion sanctaidd, ac yngwydd Yr Oen;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yf yntau o win llid Duw, a gymysgwyd yn ei lawn rym yng nghwpan ei ddigofaint; a phoenydir ef mewn tân a brwmstan yng ngŵydd angylion sanctaidd ac yng ngŵydd yr Oen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae'n win cryf ac wedi ei dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw'n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a'r Oen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
caiff yfed gwin llid Duw, wedi ei arllwys yn ei lawn gryfder i gwpan ei ddigofaint, a chaiff ei boenydio mewn tn a brwmstan gerbron angylion sanctaidd a cherbron yr Oen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
efe hefyd a ŷf o win llid Duw, yr hwn a dywalltwyd allan yn ddigymysg yng nghwpan ei ddigofaint ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan ger bron ei angelion sanctaidd a cher bron yr Oen.