Revelation 14:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mwg y poynedigeth hwynt y ddrycha yn dragywydd: ac ny chant orffwysfa na dyð na nos, yrrein y addolant yr enifel, ae ddelw ef, a phwy bynac y dderbyno print y enw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a mwg eu poenedigaeth, yn oes oesoedd y mae yn myned i fynu; ac nid oes gorphwysdra ddydd na nos, i’r rhai sy’n addoli’r bwystfil a’i ddelw, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfyd mwg eu poenedigaeth yn oes oesoedd, ac ni chânt lonydd na dydd na nos, addolwyr y bwystfil a’i ddelw, na neb pwy bynnag a gymero nod ei enw ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli'r bwystfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd y mwg o'r tân sy'n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i'r rhai sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi ei farcio â'i enw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd mwg eu poenedigaeth yn codi byth bythoedd, ac ni bydd gorffwys na dydd na nos i'r rhai sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, nac i'r rhai sy'n derbyn nod ei enw ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A mwg eu poenedigaeth sydd yn esgyn yn oes oesoedd; ac nid ydynt yn cael gorphwysdra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli yr Anghenfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nôd ei Enw ef.