Revelation 14:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi glyweis lleis or nef, yn dwedyd wrthysi, Escrifena, Bendigedic ydynt y meyrw, yrrein ydynt rrac llaw yn meyrw yn yr Arglwydd. Velly y ddwed yr ysbryd: can ys hwy y orffwyssant oðiwrth y llafyr, ae gweithredoedd y dilyn hwynt. Yr Epistol ar ddydd y Meibion gwirion
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais lais o’r nef yn dywedyd, Ysgrifena, Gwyn eu byd y meirw, y rhai yn yr Arglwydd a drengant, o hyn allan; Ië, medd yr Yspryd, fel y gorphwysont o’u llafur, canys eu gweithredoedd sy’n canlyn ynghyda hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna clywais lais o’r nef yn dywedyd, Ysgrifenna: O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy’n marw yn yr Arglwydd; Ie, medd yr Ysbryd, gorffwysant oddi wrth eu llafur; canys â eu gweithredoedd gyda hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais lef o'r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn clywais lais o'r nefoedd yn dweud: “Ysgrifenna hyn: Mae'r bobl sydd wedi marw ar ôl dod i berthyn i'r Arglwydd wedi eu bendithio'n fawr!” “Ydyn wir!” meddai'r Ysbryd, “Byddan nhw'n gorffwys o'u gwaith caled. A bydd cofnod o beth wnaethon nhw yn mynd ar eu holau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna clywais lais o'r nef yn dweud, "Ysgrifenna: 'O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy'n marw yn yr Arglwydd.' 'Ie,' medd yr Ysbryd, 'cnt orffwys o'u llafur, oherwydd y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwy.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais lef o'r nef yn dywedyd, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan; Ie, medd yr Yspryd, fel y gorphwysont oddi wrth eu llafur; canys eu gweithredoedd sydd yn canlyn gyda hwynt.