Revelation 14:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Angel arall y ðoyth allan or deml, dan lefen a lleis ywchel wrth yr vn oedd yn eiste dd ar yr wybren Bwrw y mewn dy gryman a med a: can ys amser medi y ddeyth: am vod cyn h ayaf y ddayar yn ayddfed.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, yn gwaeddi â llais mawr wrth yr hwn yn ei eistedd ar y cwmmwl, Danfon dy grymman, a meda, canys daeth yr awr i fedi, canys tra-addfedodd cynhauaf y ddaear;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth angel arall allan o’r deml, gan weiddi â llef uchel ar yr hwn a eisteddai ar y cwmwl: Estyn dy gryman a med, canys daeth yr awr i fedi, oblegid llawn aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth angel arall allan o'r deml a galw'n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi'r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae'n amser medi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth angel arall allan o'r deml, yn galw llais uchel ar yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, "Bwrw dy gryman i'r fedel, oherwydd daeth yr awr i fedi; y mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac angel arall a ddaeth allan o'r Cysegr, gan lefain â llêf uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Danfon allan dy gryman, a meda; canys daeth yr Awr i fedi; oblegyd llawn‐addfedodd cynhaeaf y ddaear.