Revelation 14:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Angel arall y ddeith allan oðiwrth yr allor, yr hwn oedd a gallu gantho ar y tan, ac y lefoedd a lleis ywchel ar yr vn oedd ar cryman llym gantho, gan ddywedyd, Bwrw y mewn dy gryman llym, a’ chascl a vagadey gwinllan y ddayar: cans y maent y grawn hi yn ayddfed.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac angel arall a ddaeth allan o’r allor, yr hwn sydd a chanddo allu ar y tân, a lleisiodd â llais mawr wrth yr hwn oedd a chanddo’r crymman llym, gan ddywedyd, Danfon dy grymman llym di, a chasgla rawn-sypiau gwinwydden y ddaear, canys llawn-addfedodd ei grawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth angel arall allan o’r allor, yr un a feddai awdurdod ar y tân, a llefodd â llef uchel ar yr un yr oedd ganddo’r cryman miniog: Estyn dy gryman miniog a chasgl sypiau gwinwydden y ddaear, canys aeddfedodd ei grawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â'r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth angel arall eto allan o'r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â'r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth angel arall allan o'r allor, ac yr oedd gan hwn awdurdod ar y tn. Galwodd llais uchel ar yr hwn yr oedd y cryman miniog ganddo. "Bwrw dy gryman miniog," meddai, "a chasgla rawnsypiau gwinwydden y ddaear, oherwydd aeddfedodd ei grawnwin."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac angel arall a ddaeth o'r Allor, yr hwn sydd âg awdurdod ganddo ar y tân; ac efe a lefodd â llef uchel wrth yr hwn yr oedd ganddo y cryman llym, gan ddywedyd, Danfon allan dy gryman llym, a chasgl sypiau gwinwydden y ddaear; canys llawn‐addfedodd ei grawnwin.