Revelation 14:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar Angel y vwroedd y gryman llym ar y ddayar, ac y doroeð y lawr gwinwydd gwinllan y ddayar, ac y bwroedd hwynt y gerwin gwin vawr digofent Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bwriodd yr angel ei grymman i’r ddaear, a chynhauafodd rawnwin gwinwydden y ddaear, a bwriodd i gerwyn llid Duw, y gerwyn fawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwriodd yr angel ei gryman i’r ddaear, a chasglodd ffrwyth gwinwydden y ddaear a’i fwrw i winwryf mawr digofaint Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a'i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r angel yn defnyddio'i gryman ar y ddaear, ac yn casglu'r cynhaeaf grawnwin a'i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r angel yn bwrw ei gryman i'r ddaear, yn casglu ffrwyth gwinwydden y ddaear ac yn ei daflu i winwryf mawr digofaint Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r angel a fwriodd ei gryman i'r ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a'i bwriodd i gerwyn fawr llid Duw.