Revelation 14:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi glyweis lleis or nef, mal lleis llawer o ddyfroedd, ac mal lleis twrwf mawr: ac mi glyweis lleis telynoriō yn cany ar y telyney.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais lais o’r nef, fel llais dyfroedd lawer, ac fel llais taran fawr; a’r llais, yr hwn a glywais, oedd fel yr eiddo telynorion yn canu eu telynnau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywais sŵn o’r nef fel sŵn dyfroedd lawer ac fel sŵn taran fawr, a’r sŵn a glywais oedd fel sŵn telynorion yn canu eu telynau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais lef o'r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna clywais sŵn o'r nefoedd oedd yn debyg i raeadrau o ddŵr neu daran uchel. Sŵn telynorion yn canu eu telynau oedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywais lais o'r nef fel su373?n llawer o ddyfroedd ac fel su373?n taran fawr. Yr oedd y llais a glywais fel sain telynorion yn canu eu telynau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais lais o'r nef, fel llais dyfroedd lawer, ac fel llais taran fawr; a'r llais a glywais oedd megys llais telynorion yn telynori ar eu telynau.