Revelation 14:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a phres gwin y gwascwyd allan or gaer, a gwaed y ddeith allan or pres‐y gwin cyfiwch a ffrwyney y meirch cyd ac vncant ar bymthec o gefnei o dir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A sathrwyd y gerwyn tu allan i’r ddinas, a daeth allan waed o’r gerwyn, hyd at ffroenau’r meirch, am fil a chwe chant o ’stadiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A sathrwyd y gwinwryf, tu allan i’r ddinas, a daeth gwaed allan o’r gwinwryf i fyny at ffrwynau’r meirch, bellter o un cant ar bymtheg o ystadau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gerwyn a sathrwyd o'r tu allan i'r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o'r gerwyn, hyd at ffrwynau'r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd y gwinwryf ei sathru y tu allan i waliau'r ddinas, a llifodd gwaed allan ohono. Roedd cymaint o waed nes ei fod mor uchel â ffrwynau ceffylau am bellter o tua 300 cilomedr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sathrwyd y gwinwryf y tu allan i'r ddinas, a llifodd gwaed o'r gwinwryf nes cyrraedd at ffrwynau'r ceffylau, am tua thri chan cilomedr o gwmpas.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A sathrwyd y gerwyn o'r tu allan i'r Ddinas, a daeth allan waed o'r gerwyn, hyd at ffrwynau y meirch am fil a chwe chant o ystadau.