Revelation 14:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hwy ganyssont mal caniat newydd gair bron y trwn, a chair bron y pedwar enifel, ar henafied, ac ny allei vn‐duyn dyscu y caniat hwnw, ond y pedeir mil a’r seith vgein mil, y rrein y brynwyd or ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chanu y maent fel pe bai ganiad newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y pedwar anifail a’r henuriaid: ac ni allai neb ddysgu’r gân oddieithr y cant a phedwar a deugain o filoedd, y rhai a brynesid oddiar y ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chanant gân newydd o flaen yr orsedd ac o flaen y pedwar peth byw a’r henuriaid; ac ni allai neb ddysgu’r gân oddieithr y cant pedwar deg a phedair o filoedd, y prynedigion o’r ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a'r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu'r gân, ond y pedair mil a'r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna ble roedden nhw, yn canu cân newydd o flaen yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol. Dim ond y cant pedwar deg pedwar mil o bobl oedd wedi eu rhyddhau o'r ddaear oedd yn gallu dysgu'r gân hon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn canu cn newydd gerbron yr orsedd a cherbron y pedwar creadur byw a'r henuriaid; ni allai neb ddysgu'r gn ond y cant pedwar deg a phedair o filoedd, y rhai oedd wedi eu prynu oddi ar y ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chanu y maent fel pe bae ganiad newydd ger bron yr Orsedd, a cher bron y pedwar creadur byw a'r henuriaid; ac ni allai neb ddysgu y gân oddieithr y cant a phedair a deugain o filoedd, y rhai a brynwyd allan o'r ddaear.