Revelation 14:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yrrein ydynt y gwyr ar nyd halogwyt a gwragedd: can ys gweryfon ynt: yrrein y ddilynāt yr Oen pa le bynac yr eiff: yrrein y brynwyd oddiwrth y dynion, yn ffrwyth cynta y Ddyw ac ir Oen:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn yw’r rhai gyda gwragedd ni halogesid hwynt, canys gwyryfon ydynt: y rhai hyn yw’r rhai sy’n canlyn Yr Oen pa le bynnag yr elo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma’r rhai na halogwyd gyda benywod, canys gwyryfon ydynt. Dyma’r rhai sy’n dilyn yr Oen i ba le bynnag yr elo. Prynwyd y rhai hyn o blith dynion yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn yw'r rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, ac heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw'n dilyn yr Oen ble bynnag mae e'n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a'u cyflwyno i Dduw a'r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r rhai sydd heb eu halogi eu hunain merched, oherwydd diwair ydynt. Dyma'r rhai sy'n dilyn yr Oen i ble bynnag yr. Prynwyd hwy o blith y ddynoliaeth, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y rhai hyn yw y rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw y rhai sydd yn dylyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd o blith dynion, yn flaen‐ffrwyth i Dduw a'r Oen.