Revelation 14:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny chafad twyll yn y geneye hwynt: can ys y maent heb gyffeith gair bron trwn Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn a brynwyd oddiwrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw ac i’r Oen: ac yn eu genau ni chaed celwydd: dianaf ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn eu genau ni chafwyd celwydd; difeius ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaethon nhw ddim dweud celwydd. Maen nhw'n gwbl ddi-fai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ni chafwyd celwydd yn eu genau; y maent yn ddi-fai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn eu genau ni chaed celwydd: y maent yn ddifai.