Revelation 14:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ac mi weleis Angel arall yn hedfan trwy ganol y nef, ac Euengel tragywydd gantho, y y bregethy yr rrei oeddent trigadwy ar y ddayar, ac y bob nasion, a’ chenedlaeth, ac ieith, a’ phobl,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais angel arall yn ehedeg ynghanol y nef, a chanddo efengyl dragywyddol i efengylu i’r rhai sy’n trigo ar y ddaear,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais angel arall yn ehedeg yn yr entrych, a chanddo efengyl dragwyddol i efengylu i’r rhai a breswylia ar y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i'w chyhoeddi i bawb sy'n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwelais angel arall yn hedfan yng nghanol y nef, a chanddo efengyl dragwyddol i'w chyhoeddi i breswylwyr y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, ac Efengyl dragwyddol ganddo i efengylu uwch ben y rhai sydd yn eistedd ar y ddaear, ac uwch ben pob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl,