Revelation 14:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dan dwedyd a lleis ywchel, Ofnywch Ddyw, a’ rrowch anrrydedd yddo ef: can ys, awr y varn ef y ddoyth: ac addolwch yr hwn y wnaeth nef a llawr, a’r mor, a’ ffynhoney y dyfroed.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl, yn dywedyd â llais mawr, Ofnwch Dduw, a rhoddwch Iddo ogoniant, canys daeth awr Ei farn, ac addolwch yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a ffynhonnau dyfroedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd â llef uchel: Ofnwch Dduw a rhoddwch iddo ogoniant, canys daeth awr ei farn ef, ac addolwch wneuthurwr y nef a’r ddaear, y môr a ffynhonnau dyfroedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a'r ddaear, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn cyhoeddi'n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi'r clod iddo! Mae'r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a'r ffynhonnau dŵr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd llais uchel, "Ofnwch Dduw, a rhowch iddo ogoniant, oherwydd daeth yr awr iddo farnu. Addolwch yr hwn a wnaeth nef a daear, y mr a ffynhonnau'r dyfroedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; canys daeth Awr ei Farn ef; ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef a'r ddaear, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd.