Revelation 14:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac angel arall y ddilynoeð, dan ddwedyd, E syrthiodd, e syrthiodd, Babylon y gaer vawr honno: can ys hi y wnaeth yr holl nasioney yfed o win digofeint y godineb hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac un arall, ail angel, a ganlynodd, yn dywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babulon Fawr, yr hon, o win llid ei godineb, a ddiododd yr holl genhedloedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dilynodd un arall, ail angel, gan ddywedyd: Cwympodd, cwympodd Babilon fawr, a wnaeth i’r holl genhedloedd yfed o win llid ei godineb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “ Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! — yr un wnaeth i'r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dilynodd angel arall, yr ail, a dweud, "Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr, y ddinas honno sydd wedi peri i'r holl genhedloedd yfed gwin llid ei phuteindra."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac arall, ail angel, a ddylynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd, Babylon fawr, yr hon sydd wedi peri i'r holl genhedloedd i yfed o win llid ei godineb hi.