Revelation 14:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’r trydedd Angel y dilynoedd hwynt, dan ddwedyd a lleis mawr, Od addola vn duyn yr enifel ae ddelw ef, ac erbyno y nod ef yny dalcen, ney yn y law,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac angel arall, trydydd, a’u canlynodd, yn dywedyd â llais mawr, Os yw neb yn addoli’r bwystfil a’i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dilynodd un arall hwynt, trydydd angel, gan ddywedyd â llef uchel: Os addola neb y bwystfil a’i ddelw, a chymryd nod ar ei dalcen neu ar ei law,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r trydydd angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a'i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, ac sydd â'i farc ar eu talcen neu ar eu llaw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dilynodd angel arall hwy, y trydydd, a dweud llais uchel, "Pwy bynnag sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac angel arall, trydydd, a'u canlynodd, yn dywedyd â llef uchel, Os addola neb yr Anghenfil a'i ddelw, a derbyn nôd ar ei dalcen neu ar ei law,