Revelation 15:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC mi weleis arwydd arall mawr yn y nef a’ rryfedd, seith Angel a chantynt y seyth pla diwetha: cans trwyddynt hwy llid Dyw y gyflawnwyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel a chanddynt saith bla, y rhai diweddaf, canys ynddynt hwy y gorphenwyd llid Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel, a chanddynt y saith bla, y rhai diwethaf, oblegid ynddynt y cyflawnwyd digofaint Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais arwydd arall yn y nef, un mawr a rhyfeddol: saith angel a chanddynt saith bla y rhai olaf, oherwydd ynddynt hwy y cwblhawyd digofaint Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel a chanddynt saith bla, y rhai diweddaf, canys ynddynt hwy y gorphennwyd llid Duw.