Revelation 15:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi weleis mal by bei mor gwydrol, gwedy y gymysgy a thā ar sawl y gawsant y llaw ’n ycha ar yr enifel, ae ddelw, ac ar y nod, ac ar rrif y enw ef, yn sefyll ar ’lan] y mor gwydrol, a thelyney Dyw ganthynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais fel pe bai fôr o wydr, yn gymmysg â thân, a’r gorchfygwyr oddiwrth y bwystfil, ac oddiwrth ei ddelw, ac oddiwrth rifedi ei enw, yn sefyll ar y môr gwydr, a chanddynt delynnau Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais megis môr gwydr cymysgedig â thân, a’r rhai a fuddugoliaethai ar y bwystfil ac ar ei ddelw ac ar rif ei enw yn sefyll ar y môr gwydr, a chanddynt delynau Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a'r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi eu rhoi iddyn nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais rywbeth tebyg i fr o wydr, a thn yn gwau drwyddo, ac yn sefyll ar y mr o wydr gwelais orchfygwyr y bwystfil a'i ddelw a rhif ei enw, yn dal telynau Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais fel pe bae fôr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a'r rhai a ddaethant yn orchfygwyr oddiwrth yr Anghenfil, ac oddiwrth ei ddelw, ac oddiwrth rifedi ei Enw ef, yn sefyll wrth y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt.