Revelation 15:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hwy ganasāt ganiat Moysen gwasanaethwr Dyw, a chaniat yr Oen, dan ddwedyd, Mawr, a ’rryfedd ydynt dy weithredoedd, Arglwydd Ddyw hollallyawc: cyfiawn a’ chywir ynt dy ffyrdd, Brenin y Seint.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chanu y maent gân Mosheh, gwas Duw, a chân Yr Oen, gan ddywedyd, Mawr a rhyfeddol yw Dy weithredoedd, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog; Cyfiawn a gwir yw Dy ffyrdd, Brenhin yr oesoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chanant gân Moses gwas Duw a chân yr Oen, gan ddywedyd: Mawr a rhyfeddol dy weithredoedd, Arglwydd Dduw hollalluog; cyfiawn a gwir dy ffyrdd, Frenin y cenhedloedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen: “Mae popeth rwyt yn ei wneud mor anhygoel a rhyfeddol Arglwydd Dduw Hollalluog. Mae beth rwyt yn ei wneud yn gyfiawn a theg, Frenin pob oes.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn canu cn Moses, gwas Duw, a chn yr Oen: "Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw hollalluog; cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, O Frenin y cenhedloedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chanu y maent Gân Moses, gwas Duw, a Chân yr Oen, gan ddywedyd, Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd, Arglwydd Dduw yr Hollalluog; Cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, Brenin y Cenhedloedd.