Revelation 15:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy nath ofna di Arglwydd, a gogoniantu dy Enw? cans ti yn unic wyd santeidd, ar holl nasioney y ddont ac aðolant gair dy vron di: cans dy varney di ydynt cohoyddys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy nad ofna, Arglwydd, a gogoneddu Dy enw, canys yr unig Sanctaidd wyt, Canys yr holl genhedloedd a ddeuant, ac a addolant ger Dy fron, canys Dy gyfiawnderau a amlygwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Canys ti’n unig sydd sanctaidd, a daw’r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oblegid gwnaethpwyd yn amlwg dy gyfiawnderau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy ni'th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy fyddai ddim yn dy barchu di, a chanmol dy enw di, Arglwydd? Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod i addoli o dy flaen di, oherwydd mae'n amlwg fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd. Daw'r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy nad ofna, O Arglwydd, ac na ogonedda dy Enw? Oblegyd tydi yn unig wyt sanctaidd; Oblegyd yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; Oblegyd dy weithredoedd cyfiawn di a amlygwyd.