Revelation 15:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r seith Angel y ddeythont allan or dem’l, yrrein oeddent ar seith pla ganthynt, ae dillad oedd llien pur gloyw, ac wedy ymwregysu ynghylch y broney a gwregysey aur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a daeth allan y saith angel y sydd a chanddynt y saith bla, allan o’r deml, wedi eu gwisgo â maen pur a disglair, ac wedi eu gwregysu am eu dwyfronnau â gwregysau aur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a daeth allan o’r cysegr y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt, wedi eu gwisgo â lliain glân disglair ac amgylch-wregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o'r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi eu gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac allan o'r deml daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt. Yr oeddent wedi eu gwisgo lliain disgleirwych, a gwregys aur am eu dwyfron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt allan o'r Cysegr, wedi eu gwisgo â llian gwerthfawr, pur a disglaer, ac wedi eu gwregysu am eu dwyfronnau â gwregysau aur.