Revelation 15:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn o’r pedwar enifel y roedd yr seith Angel seith phiol aur yn llawn o ðigovent Dyw, yr hwn y sydd yn byw yn dragywydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac un o’r pedwar anifail a roes i’r saith angel saith phiol aur, yn orlawn o lid Duw, yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac un o’r pedwar peth byw a roes i’r saith angel saith ffiol aur yn llawn o lid Duw y sydd yn byw yn oes oesoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un o'r pedwar anifail a roddodd i'r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhoddodd un o'r pedwar creadur byw saith ffiol aur i'r saith angel, yn llawn o lid Duw, yr hwn sy'n byw byth bythoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un o'r pedwar creadur byw a roddodd i'r saith angel saith phiol aur yn llawn o lid Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.