Revelation 15:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yrydoedd y demel yn llawn o vwg gogoniant Dyw ae allu, ac ny doedd neb yn abyl y vyned y mewn yr demel, hed yn ðarfod gyflewni seith pla y seith Angel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gorlenwyd y deml o fwg oddiwrth ogoniant Duw, ac oddiwrth Ei allu; ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes gorphen o saith bla y saith angel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llanwyd y cysegr â mwg o ogoniant Duw ac o’i nerth ef, ac ni allai neb fyned i mewn i’r cysegr hyd oni chyflawnid saith bla’r saith angel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i'r deml, nes darfod cyflawni saith bla'r saith angel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llanwyd y deml mwg gan ogoniant Duw a'i allu ef, ac ni allai neb fynd i mewn i'r deml hyd nes cwblhau saith bla y saith angel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llanwyd y Cysegr o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei allu ef; ac ni allai neb fyned i'r Cysegr, nes gorphen saith bla y saith angel.