Revelation 16:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC mi glyweis lleis mawr allan o’r deml, yn dwedyd wrth yr seith Angel, Ewch ffwrdd, a’ thywellwch allan seith phiol digovent Dyw ar y ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais lais mawr o’r deml yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan y saith phiol llid Duw i’r ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywais lef uchel o’r cysegr yn dywedyd wrth y saith angel: Ewch a thywelltwch y saith ffiol o lid Duw ar y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais lef uchel allan o'r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn clywais lais o'r deml yn dweud yn glir wrth y saith angel, “Ewch! Tywalltwch saith powlen digofaint Duw ar y ddaear!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywais lais uchel o'r deml yn dweud wrth y saith angel, "Ewch ac arllwyswch ar y ddaear saith ffiol llid Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais lef uchel o'r Cysegr yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan saith phiol llid Duw i'r ddaear.