Revelation 16:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r pymed Angel y dwalloedd y phiol allan ar eisteddle yr enifel, ae deirnas ef aeth yn dywyll, a’ chnoi y wneythont y tafodey gan ddolyr,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r pummed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd-faingc y bwystfil, ac aeth ei deyrnas yn dywylledig: a chnoisant eu tafodau gan y boen,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thywalltodd y pumed ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; ac aeth ei deyrnas yn dywyll, a chnoent eu tafodau gan boen,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a'i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma'i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew. Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arllwysodd y pumed ei ffiol ar orsedd y bwystfil; a daeth tywyllwch ar ei deyrnas ef. Yr oedd pobl yn cnoi eu tafodau gan boen,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r pumed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd yr Anghenfil, a'i deyrnas ef a dywyllwyd; a chnoisant eu tafodau gan y boen;