Revelation 16:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r chweched Angel y dywalloedd allan y phiol ar yr afon vawr Euphrates, a’r dwr o honi y sychoedd y vyny dd, mal y gellid parottoi ffordd Breninoedd y Dwyren.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r chweched a dywalltodd allan ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr fel y parottoid ffordd y brenhinoedd sydd o godiad haul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thywalltodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, Ewffrates; a sychodd ei dwfr fel y paratoid ffordd y brenhinoedd o’r dwyrain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o'r dwyrain yn gallu ei chroesi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arllwysodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, afon Ewffrates; a sychodd ei dyfroedd hi i baratoi ffordd i'r brenhinoedd o'r dwyrain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r chweched a dywalltodd ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr, fel y parotôid ffordd y brenhinoedd o gyfodiad haul.