Revelation 16:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Canys ysbrydion cythreyled ydynt, yn gwneythyr gwrthiey, y vynd at Vrenhinoedd y ddayar, a’r holl vyd, y cascly hwynt y ryfel y dydd mawr hwnw y bie Dyw hollalluawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion, y rhai sy’n myned allan ar frenhinoedd y ddaear oll, i’w casglu hwy i ryfel dydd mawr Duw, Yr Hollalluog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys ysbrydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion, ac ânt allan yn erbyn brenhinoedd yr holl fyd i’w casglu ynghyd i ryfel dydd mawr Duw hollalluog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ysbrydion cythreuliaid, yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear, a'r holl fyd, i'w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Hollalluog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a'r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i'w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd ysbrydion cythreulig oeddent, yn gwneud arwyddion gwyrthiol. Ac aethant allan at frenhinoedd yr holl fyd i'w casglu ynghyd i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion; y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear oll, i'w casglu hwynt ynghyd i ryfel Dydd Mawr Duw, yr Hollalluog;