Revelation 16:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Syna, yr wyf yn dyfod mal lleidyr, Bendigedic ywr vn y wilio ac y gatwo y dillad, rrac yddo rrodio yn hoeth, a rrac gweled y vrynti,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
(Wele, dyfod yr wyf fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n gwylied, ac yn cadw ei ddillad, fel nad yn noeth y rhodio, a gweled o honynt ei anharddwch.)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
(Wele, yr wyf yn dyfod fel lleidr; gwyn ei fyd y sawl sy’n effro ac yn cadw ei ddillad amdano, fel na rodio’n noeth ac na welont ei noethni.)
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Edrychwch! Dw i'n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy'n cadw'n effro yn cael eu bendithio'n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
(Wele, rwy'n dod fel lleidr. Gwyn ei fyd y sawl sy'n effro, a'i ddillad ganddo'n barod, rhag iddo fynd o amgylch yn noeth a'i weld yn ei warth.)
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(Wele, yr wyf yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na byddo yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef).