Revelation 16:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’r seithfed Angel y dwalloedd allan y phiol ir awyr: a ’lleis ywchel y ddeyth allan o deml y nef oddiwrth yr eisteddle, yn dwedyd, Ef y dderfy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llais mawr allan o’r deml oddiwrth yr orsedd-faingc, yn dywedyd, Darfu:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thywalltodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llef uchel allan o’r cysegr, o’r orsedd, yn dywedyd: Dyna’r diwedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i'r awyr; a daeth llef uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, Darfu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i'r awyr, a dyma lais uchel o'r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna'r diwedd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arllwysodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llais uchel o'r deml, o'r orsedd, yn dweud, "Y mae'r cwbl ar ben!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llef uchel allan o'r Cysegr, o'r Orsedd, yn dywedyd, Darfu,