Revelation 16:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rrany y wneithpwyd y gaer vawr yn deir ran, a’ syrthio wneithont ceyrydd y nasioney: a’ Babylon vawr y ðeyth mewn cof gair bron Dyw, y rroi yddi cwppa n gwin digofeint y lid ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac aeth y ddinas fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babulon fawr a gofiwyd ger bron Duw, i roddi iddi gwppan gwin digofaint Ei lid:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth y ddinas fawr yn dair rhan, a chwympodd dinasoedd y cenhedloedd. A galwyd Babilon fawr i gof gan Dduw i roddi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ddinas fawr yn hollti'n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi ei wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Holltwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a syrthiodd dinasoedd y cenhedloedd. Cofiodd Duw Fabilon fawr, a rhoi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhannwyd y Ddinas Fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant; a Babylon Fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw, i roddi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint ef.