Revelation 16:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar cynta aeth ac y dywalloedd y phiol ar y ddaiar: a’ chornwyd drwc a’ dolyrys y gwympoedd ar y gwyr ’oedd a nod yr enifel arnynt, ac ar y rrei y addolsant y ddelw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth y cyntaf ymaith a thywalltodd allan ei phiol i’r ddaear: ac aeth hi yn gornwyd drwg a blin ar y dynion oedd a chanddynt nod y bwystfil, a’r rhai a addolent ei ddelw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth y cyntaf allan a thywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a daeth cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt ac yn addoli ei ddelw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i'r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y cyntaf ac arllwys ei ffiol ar y ddaear; a chododd cornwydydd drwg a phoenus ar y rhai yr oedd nod y bwystfil arnynt ac a oedd yn addoli ei ddelw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd allan ei phiol i'r ddaear; ac aeth yn gornwyd drwg a blin ar y dynion a chanddynt nod yr Anghenfil, a'r rhai a addolent ei ddelw ef.