Revelation 16:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A chwympo y wnaith cenllys mawr, mal pwyse, or nef ar y dynion, a’r dynion y rregasant Ddyw, am plaae yr cenllys: can ys mawr anianol oedd y phla hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chenllysg mawr, oddeutu pwys talent yr un, a ddisgynasant o’r nef ar ddynion; a chablodd dynion Dduw am bla’r cenllysg, canys mawr oedd eu pla, yn dra-mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A disgyn cenllysg mawr, tua thalent yr un o bwysau, o’r nef ar ddynion; a chablodd y dynion Dduw oherwydd pla’r cenllysg, canys ofnadwy o fawr yw pla’r cenllysg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o'r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla'r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o'r awyr — yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar bobl disgynnodd o'r awyr genllysg mawr, yn pwyso tua phedwar cilogram ar ddeg ar hugain yr un; ond cablu Duw a wnaethant am bla'r cenllysg, gan mor llym oedd y pla hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chenllysg mawr, o ddeutu pwys talent yr un, sydd yn disgyn o'r nef ar ddynion; a'r dynion a gablasant Dduw o herwydd pla y cenllysg; canys aruthrol fawr yw eu pla hwynt.