Revelation 16:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar eil Angel y dowalloedd y phiol ar y mor, ac ef aeth mal gwaed duyn‐ vvedi‐ marw, a’ phob peth byw yny mor y vy varw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r ail a dywalltodd allan ei phiol i’r môr; ac yr aeth hi yn waed fel yr eiddo dyn marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y pethau yn y môr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thywalltodd yr ail ei ffiol ar y môr; a daeth gwaed megis gwaed un marw, a threngodd popeth byw a oedd yn y môr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arllwysodd yr ail ei ffiol i'r mr; a throes y mr yn debyg i waed corff marw, a bu farw popeth byw oedd yn y mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r ail a dywalltodd allan ei phiol i'r môr; ac efe a aeth yn waed megys gwaed un marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y rhai yn y môr.