Revelation 16:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi glyweis angel y dyfroedd yn dwedyd, Arglwydd, Yr wyd yn gyfiawn, yr Hwn wyd, ac yr Hwn y vyost, a’ sancteidd, achos yd varny y pethey yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn wyt, yr Hwn ydyw ac yr Hwn oedd, Y Sanctaidd, gan mai’r pethau hyn a fernaist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd: Cyfiawn wyt, yr hwn sydd a’r hwn oedd, y sanctaidd, canys dy ddedfryd oedd hyn:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fi'n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud: “Rwyt ti'n gyfiawn wrth gosbi fel hyn — yr Un sydd, ac oedd — yr Un Sanctaidd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud: "Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un, yn y barnedigaethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn wyt ti, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, tydi yr Un Sanctaidd, oblegyd barnu o honot y pethau hyn;