Revelation 16:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans hwy gollasant g waed y Seint, a’ phroffwydi, ac am hyny ti y rroddeist yddynt g waed y yfed: cans teilwng yddynt y hynny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan, A gwaed a roddaist iddynt hwy i’w yfed. Haeddu y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
am dywallt ohonynt waed saint a phroffwydi, rhoddaist iddynt hwythau waed i’w yfed; dyma a haeddant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; canys y maent yn ei haeddu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi tywallt gwaed dy bobl di a'th broffwydi, ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed. Dyna maen nhw yn ei haeddu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi, rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed; dyma eu haeddiant."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; y maent yn deilwng.