Revelation 16:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dynion y aent yn boeth can wres mawr, ac y ddwedasant ddrwc am enw Dyw, oedd a meddiant gantho ar y plae hyn, ac ny chymersont eteyfeirwch y rroi gogoniant yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhoddwyd iddo i boethi dynion â thân: a phoethwyd dynion â phoethder mawr; a chablasant enw Duw, yr Hwn sydd a Chanddo y gallu ar y plaau hyn; ac nid edifarhasant i roi Iddo ogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llosgwyd dynion â gwres mawr, a chablasant enw Duw y sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn, ac nid edifarhasant i roddi iddo ogoniant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi yn y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llosgwyd pobl yn enbyd, ond cablu a wnaethant enw Duw, yr hwn sydd ganddo awdurdod ar y plu hyn; ni bu'n edifar ganddynt ac ni roesant ogoniant iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phoethwyd dynion â phoethder mawr; a hwy a gablasant Enw Duw, yr hwn sydd âg awdurdod ganddo ar y Pläau hyn, ac nid edifarhasant i roi gogoniant iddo ef.