Revelation 17:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pymp y syrthioedd ac vn ysydd, ac arall ysydd heb ddyfod etto: a’ phan y ddel ef, rreid yddo parhay ychydic o amser.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pump a syrthiasant, un sydd; y llall nid yw etto wedi dyfod, a phan ddelo, am ychydig amser y mae rhaid iddo ef aros.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae saith brenin; cwympodd pump, erys un, ni ddaeth y llall eto, a phan ddêl, rhaid yw iddo aros ychydig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a'r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pump ohonyn nhw eisoes wedi syrthio, mae un yn frenin ar hyn o bryd, ac mae'r llall heb ddod eto. Pan fydd hwnnw'n dod, fydd e ond yn aros am amser byr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A saith brenin ydynt hefyd; y mae pump wedi syrthio, y mae un yn llywodraethu, nid yw'r llall wedi dod eto, a phan ddaw nid yw i aros ond am fyr amser.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pump a gwympasant, un sydd; y llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ond ychydig.