Revelation 17:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dec corn y weleist, dec Brenin ydynt, yrrein ny chawsont etto vrenhiniaeth, ond hwy gant g allu mal Brenhinoedd mewn vn awr gydar enifel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r deg corn, y rhai a welaist, deg brenhin ydynt, y rhai, teyrnas hyd yn hyn ni dderbyniasant, eithr awdurdod, megis brenhinoedd, am un awr y maent yn ei dderbyn ynghyda’r bwystfil.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai na dderbyniasant eto frenhiniaeth, eithr awdurdod fel brenhinoedd am un awr a dderbyniant gyda’r bwystfil.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r bwystfil.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r deg corn welaist ti yn cynrychioli deg brenin sydd heb deyrnasu eto, ond byddan nhw'n cael awdurdod i deyrnasu gyda'r anghenfil am amser byr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, rhai na ddaethant eto i'r orsedd, ond fe dderbyniant awdurdod brenhinol am un awr ynghyd 'r bwystfil.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r deg corn, y rhai a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth hyd yn hyn; eithr awdurdod fel brenhinoedd, am un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r Anghenfil.