Revelation 17:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yrrein y ymladdant ar Oen, a’r Oen a gorchfyga hwynt: cans ef ydiw Arglwydd arglwyddi, a Brenin brenhinoedd, a’r rrey ysydd ar y rran ef, hwy a elwid ac y ddetholwyd, a’ ffyddlawn ynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r Oen a’u gorchfyga, gan mai Arglwydd arglwyddi yw, a Brenhin brenhinoedd; a’r rhai ynghydag Ef, galwedigion ac etholedigion a ffyddloniaid ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhyfela’r rhain â’r Oen, a gorchfyga’r Oen hwynt, canys Arglwydd arglwyddi yw a Brenin brenhinoedd, a chydag ef hefyd y rhai galwedig ac etholedig a ffyddlon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a'r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n rhyfela yn erbyn yr Oen, ond bydd yr Oen yn ennill y frwydr am ei fod yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd. A bydd ei ddilynwyr ffyddlon — y rhai sydd wedi eu galw a'u dewis ganddo — yn rhannu'r fuddugoliaeth gydag e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ryfelant yn erbyn yr Oen, ac fe orchfyga'r Oen hwy, oherwydd y mae ef yn Arglwydd arglwyddi a Brenin brenhinoedd, a'i osgorddlu ef yw'r rhai a alwyd ac a etholwyd ac sy'n ffyddlon."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt, oblegyd Arglwydd arglwyddi ydyw a Brenin brenhinoedd; a'r rhai sydd gyd âg ef a orchfygant, ei alwedigion, a'i etholedigion, a’ i ffyddloniaid.